Ar 26 Chwefror 1904, daeth casgliad o dirfeddianwyr dylanwadol ynghyd i ffurfio Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru – sefydliad a fyddai’n dod yn ddiweddarach yn Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Cynhaliwyd y cyfarfod i ffurfio’r Gymdeithas yn Ystafell Bwyllgor 12 yn Y Senedd yn San Steffan.
120 mlynedd i’r diwrnod yn ddiweddarach, bydd y digwyddiad hwn yn dathlu hanes y Gymdeithas a sut y mae wedi tyfu i gynnal un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop.
Bydd gan guraduron o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddetholiad o ddeunydd archif yn ymwneud â’r cyfarfod cyntaf un hwnnw, ac yna sgyrsiau byr ar orffennol, presennol a dyfodol CAFC.