• Eluned Morgan AM

    Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

    “Gwlad nwyfus yw'n gwlad gyda chymaint i'w gynnig - yn hanesyddol, yn ddiwylliannol a chan ein hystod amrywiol o fusnesau. Hyrwyddiad cydlynol yw Wythnos Cymru yn Llundain o bopeth sydd gennym i'n llongyfarch ein hunain amdano. Mae'r ŵyl flynyddol hon yn arddangos nifer o weithgareddau sydd yn dathlu a hyrwyddo cymunedau Cymreig sydd eisioes yn bodoli yn Llundain, gan ddarparu cyfle cyffrous i godi'n proffil a chreu cyffro go iawn.”

  • Spokesperson

    Office of the Secretary of State for Wales

    “As Wales Weeks gain momentum worldwide, the line-up of fantastic events for Wales Week London 2020 is testimony to the appetite to celebrate all things Welsh – our culture, language and businesses – and promote them to an international audience. The UK Government in Wales wishes the week every success.”

  • Nicola Brentnall

    Cyfarwyddwr, The Queen's Trust a The Queen's Commonwealth Trust

    “Diolch am raglen mor wych - gan ddod â rhyfeddodau Cymru i Lundain. Mae rhywbeth i bawb yma.”

  • Heather Myers

    CEO, Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru

    “Mae Wythnos Cymru yn Llundain yn creu cyfleoedd enfawr i fusnesau yng Nghymru a Llundain fel ei gilydd. Nid yw’r digwyddiadau hyn yn hybu diwylliant Cymru yn unig ond yn arddangos ei botensial fel lle gwych i fuddsoddi a gwneud busnes. Rwy’n annog pob busnes Cymreig i gymryd rhan ac i ddefnyddio cyffro Wythnos Cymru i ymgysylltu, i gynyddu’ch marchnad drwy arddangos beth sydd gennych i’w gynnig, ac yn y pendraw i geisio am ffyrdd o ddenu busnes newydd o Lundain.”

  • John Burns MBE

    Sylfaenydd, Burns Pet Nutrition

    “Fel cwmni a’i ganolfan yng Nghydweli, rydym wrth ein bodd i gefnogi menter busnes parhaus sy’n pontio’r bwlch rhwng Cymru a Llundain. Mae bod yn rhan o ddigwyddiad cenedlaethol mawr ei fri megis WWIL yn ein caniatáu i arddangos Burns i gynulleidfa ehangach a meithrin perthynas newydd ag ysgogwyr a chynhyrfwyr diwydiant gartref ac i ffwrdd fel ei gilydd.”