Gallwch weld yr ocsiwn a rhoi’ch cynigion fan’ma https://www.32auctions.com/walesweeklondon
Gwahoddir chi i gynnig am gasgliad arbennig o frasluniau, lluniau a pheintiadau a gynhyrchwyd gan nifer o arlunwyr Cymreig gwahanol – comisiynom lyfrau brasluniau o waith llaw gan yr arlunydd Cymreig a’r gwneuthurwr llyfrau, Carole King o Nant Designs, sydd yn teithio ar hyd a lled Cymru, gan ymweld ag ystod o arlunwyr Cymreig, sydd yn llenwi’r llyfrau braslunio gyda’u lluniau, brasluniau a pheintiadau eu hunain.
Bydd y rhain yn set unigryw o lyfrau braslunio (wedi’u cyflwyno mewn blwch cyflwyno pwrpasol); gan arddangos amrywiaeth, dawn greadigol ac ansawdd celf Gymreig cyfoes.
Meant yn cynnwys cyfraniadau gan Shani Rhys James, Stephen West, Haf Weighton, Carys Evans, Nichola Hope, Sarah Hope, Elfyn lewis, Kate Bell, Glenys Cour, Aidan Myers, Su Roberts, Scott Euden, Paul Bailey, Kim James-Williams, Emrys Williams, Phillipa Robbins, Carol Bartlett, Sarah Garvey, Meinir Mathias, Zena Blackwell , Jacqueline Jones, Catrin Williams, Sarah Lees, Gareth Hugh Davies, Carl Chapple, Annie Suganami, Richard Hughes, Melanie Wotton, Gwyn Roberts, Steffan Jones-Hughes, Stephen West, Kevin Sinnott, Alan Salisbury a Chris Wallbank.
Caiff y llyfrau braslunio eu gwerthu mewn ocsiwn i godi arian i bartner elusen swyddogol Wythnos Cymru Llundain, Felindre – bydd yr ocsiwn yn cau yn y Private View / Noson Agoriadol yr Arddangosfa, yng Nghanolfan Cymry Llundain ddydd Gwener 18 Chwefror am 8.00pm.
Mae diolch arbennig yn mynd i bob un o’r arlunwyr Cymreig, sydd yn hael wedi rhoi’u hamser a’u harbenigedd i’r fenter arbennig hon – yn ogystal ag i Ganolfan Cymry Llundain, sydd yn parhau i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru mewn ffordd mor gadarnhaol a rhagweithiol – ac wrth gwrs i Nichola Hope am ei hegni a’i brwdfrydedd i wireddu’r prosiect.
Pob lwc gyda’ch cynigion!