Bydd y rhaglen flynyddol fwyaf o ddigwyddiadau yn dathlu a hybu Cymru yn digwydd am y nawfed flwyddyn yn olynol, yn ystod y pythefnos o gylch Dydd Gŵyl Dewi, o 21 Chwefror i 8 Mawrth 2025.
Yn naturiol, ar gyfer 2025 y cynllun yw adeiladu ar lwyddiant y rhaglen eleni, a welodd 128 o weithgareddau a digwyddiadau’n digwydd yn ystod Wythnos Cymru Llundain, a llu o weithgareddau a digwyddiadau’n digwydd yn gydamserol ar hyd a lled y byd gydag Wythnosau Cymru’n cael eu cynnal hefyd yn Efrog Newydd, Berkshire, Hwngari, Malta, Kyrgyzstan, Osaka, Melbourne, Kansas, New England, Pittsburgh, Detroit, ac Ohio, fel rhan o raglen gyffredinol Wythnos Cymru Byd-Eang.
Eisoes yn ystod y digwyddiadau eleni rydym wedi denu partneriaid newydd a nifer o gynhalwyr digwyddiadau newydd yn awyddus i gyfrannu i’r digwyddiad y flwyddyn nesaf.
Gyda’n gilydd, ein partneriaid a fu gyda ni ers tro, ein cynhalwyr digwyddiadau rheolaidd, a chyda’r nifer cynyddol o bobl rhyfeddol sydd yn cyflenwi’n rhaglenni Wythnos Cymru o amgylch y byd, gallwn synhwyro eisoes y bydd Wythnos Cymru 2025 yn rhaglen egnioledig arall, yn creu maint enfawr o sŵn Cymreig.
Meddai Cadeirydd ein menter, Dan Langford, “Rhaglen Wythnos Cymru yw’r rhaglen digwyddiadau flynyddol fwyaf sydd yn dathlu a hybu Cymru, ac ymdrech enfawr ar y cyd yw achos y llwyddiant – canlyniad uniongyrchol pawb a’i chefnogodd, y rheiny sydd yn dod â’u gweithgareddau a’u syniadau i’r amserlen, a’r miloedd ar filoedd o bobl sydd wedi ei mynychu, ymuno ynddi a helpu i arddangos y gorau o Gymru.
“Anterth yr holl egni, ewyllys da a dychymyg y cyfrana’r bobl a’r sefydliadau rhyfeddol hyn bob blwyddyn yw Wythnos Cymru."
Bydd Wythnos Cymru’n dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru, yn coffáu’i diwrnod cenedlaethol, ac yn hyrwyddo Cymru fodern i weddill y byd.
Cysylltwch os ydych am fod yn rhan o’r fenter ar gyfer 2025!