• Dyddiad
    27th Chwefror 2024 at 07:00yp
  • Man cyfarfod
    Borough Welsh Chapel, 90 Southwark Bridge Rd, London SE1 0EX
  • Gwesteiwr
    Côr y Boro | Borough Welsh Choir
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Côr Cymraeg llawn hwyl, côr cymdeithasol, aml-genhedlaeth a’i ganolfan yn Llundain.

Mae rhan fwyaf o’n haelodau’n Gymry neu â chysylltiad Cymreig, ond bydd croeso i bawb.

Does dim clyweliadau (mae darllen miwsig yn gymorth ond nid yw’n hanfodol). Bydd yr ymarferion yn Saesneg ond Cymraeg fyddwn yn ei ganu gan amlaf.

Mae gigs blaenorol yn cynnwys Palas Buckingham, y Shard, 10 Downing Street, Radio 2, Gwesty St Pancras, Canolfan Cymry Llundain a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd ymarferion bob dydd Mawrth 7.00yh - 9.00yh yng Nghapel Cymreig y Borough (y gorsafoedd trên danddearol agosaf yw Borough / London Bridge​).

Beth am ymuno â ni!