Bydd y rhaglen digwyddiadau blynyddol fwyaf yn dathlu a hybu Cymru, yn Llundain a ledled y byd, yn digwydd dros y bythefnos o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi'r flwyddyn nesaf, o 20 Chwefror i 7 Mawrth 2022.

Eleni cafodd Wythnos Cymru Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang eu tarfu arnynt yn fawr gan y cyfyngiadau yn sgil y pandemig Covid19 ond er hynny digwyddodd oddeutu 70 o weithgareddau ar-lein yn Llundain yn ogystal â 60 ledled y byd gan gynnwys miloedd o fynychwyr a hefyd yn denu cynulleidfaoedd newydd i ddigwyddiadau newydd ac mewn lleoliadau newydd am y tro cyntaf.

Yn naturiol, y bwriad yw adeiladu ar y llwyddiant hwn ar gyfer 2022 - i barhau gyda’r momentwm sydd wedi bod yn datblygu dros y pum mlynedd ddiwethaf, ac i gyflwyno hyd yn oed rhaglen fwy hybrid a chynhwysfawr o weithgareddau a digwyddiadau wyneb-i-wyneb a digidol fel ei gilydd.

Ar gyfer 2022 mae gennym eisoes noddwyr a phartneriaid newydd sydd wedi ymuno â ni, a nifer o gynhalwyr digwyddiad newydd yn edrych i gynllunio’u gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Gyda’n partneriaid hir sefydlog, ein cynhalwyr digwyddiad rheolaidd, a chyda’r nifer cynyddol o bobl ryfeddol sydd yn cyflenwi’n rhaglenni Wythnos Cymru ledled y byd, gallwn deimlo’n barod y bydd 2022 yn flwyddyn drawiadol arall.

Meddai Cadeirydd Wythnos Cymru Fyd-eang, Dan Langford, “Yn wirioneddol cawsom ein syfrdanu gan y diddordeb eleni, nid yn unig gan y rheiny sydd wedi cyfranogi i’r gweithgareddau blynyddol dros nifer o flynyddoedd ond hefyd gan bobl a sefydliadau nad oeddem eisoes wedi gweithio gyda nhw.

“Fe groesawom leoliadau newydd megis Osaka a Hwngari i’r rhaglen eleni, ac mewn mannau eraill ledled y byd roedd pob un o’n partneriaid, mewn gair, yn rhagorol wrth gyflenwi’u gweithgareddau yn erbyn y llif. Cynhaliwyd digwyddiadau Wythnos Cymru hefyd yn Pittsburgh, Efrog Newydd, Paris, Melbourne, New England, Berkshire, Kansas a Beijing, yn ogystal â Phythefnos Bwyd Wythnos Cymru benodol yn hybu bwyd a diod Cymru; i gyd o ganlyniad egni, ewyllys da a dychymyg ardderchog rhai pobl fendigedig, wirioneddol.

“Y llynedd yn Llundain cynhaliom oddeutu 135 o weithgareddau a digwyddiadau gwahanol, a gobeithio, byddwn yn 2022 yn gwireddu oddeutu’r un nifer o weithgareddau ond hefyd yn gallu cydlynu’r digwyddiadau ffisegol ag eraill a gynhelir ar-lein, a fydd yn denu cynulleidfaoedd cynyddol ac o bedwar ban y byd.

“Rhaglen Wythnos Cymru yw’r rhaglen ddigwyddiadau blynyddol fwyaf yn dathlu a hybu Cymru, yn Llundain ac o amgylch y byd fel ei gilydd, a chanlyniad ymdrech enfawr ar y cyd yw ei lwyddiant - canlyniad uniongyrchol y rheiny sydd yn ei gefnogi, sydd yn dod â’u gweithgareddau a’u syniadau i’r amserlen, a’r miloedd o bobl sydd yn mynychu, ymuno i mewn a helpu arddangos yr hyn a wnawn drwy sianeli’u cyfryngau cymdeithasol.”

Gwahoddir pobl i arwyddo fan’ma i gael y newyddion diweddaraf ar raglen Wythnos Cymru’r flwyddyn nesaf.

Newyddion