Mae’r dyddiadau ar gyfer Wythnos Cymru Llundain a Wythnos Cymru ledled y Byd 2021 wedi cael eu cyhoeddi- dydd Sadwrn 20fed Chwefror i ddydd Sul 7fed Mawrth 2021.

Gyda thua 135 o wahanol ddigwyddiadau / gweithgareddau yn cael eu cynnal yn ystod Wythnos Cymru Llundain 2020 - yn ogystal ag Wythnosau Cymru yn digwydd mewn 21 o leoliadau eraill ledled y byd. . . rydym yn gyffrous am gynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf - ein pumed pen-blwydd!

Yn ogystal â gweithio gyda’r holl drefnwyr digwyddiadau a gwesteiwyr sydd wedi bod yn rhan o bopeth dros yr wythnosau diwethaf, mae yna rai digwyddiadau newydd sydd yn cael eu trafod ar gyfer y flwyddyn nesaf - rhai cynlluniau gwych a rhai partneriaid newydd - gan gynnwys hyd yn oed mwy o leoliadau yn cael eu hychwanegu o bob cwr o'r byd yn ymuno a parti 'Wythnos Cymru' - does dim gadael i fyny!

Felly am y tro, cofiwch rhoi y dyddiadau yn eich dyddiadur - ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan naill ai trwy gynnal digwyddiad / gweithgaredd, mewn helpu gyda hyrwyddiadau Wythnos Cymru, wrth noddi / partneru gweithgaredd penodol neu Wythnos Cymru yn gyffredinol, neu am unrhyw reswm arall, cysylltwch â ni - byddem yn falch iawn o glywed gennych!

Diolch yn fawr

Newyddion