Bydd y rhaglen flynyddol fwyaf o ddigwyddiadau sydd yn dathlu a hybu Cymru, yn Llundain a ledled y byd yn digwydd yn ystod y bythefnos o gylch Dydd Gŵyl Dewi’r flwyddyn nesaf, o 19 Chwefror i 5 Mawrth 2023.

Yn naturiol, ar gyfer 2023 y bwriad yw adeiladu ar lwyddiant y rhaglen eleni, a welodd cynifer â 90 o weithgareddau a digwyddiadau yn digwydd ar draws Llundain yn ogystal ag oddeutu 50 o ddigwyddiadau yn digwydd ledled y byd gyda Wythnosau Cymru hefyd yn cael eu cynnal yn Efrog Newydd, Berkshire, Iran, Hwngari, Osaka, Kansas, Melbourne, New England, British Columbia, Pittsburgh ymysg eraill, fel rhan o raglen gyffredinol Wythnos Cymru Fyd-eang.

Eisoes yn ystod y digwyddiadau eleni rydym wedi denu partneriaid newydd i gymryd rhan, a nifer o gynhalwyr digwyddiad yn edrych i gynllunio’u gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Gyda’n partneriaid hirsefydlog, ein cynhalwyr rheolaidd, a chyda’r nifer cynyddol o bobl rhyfeddol sydd yn cyflenwi’n rhaglenni Wythnos Cymru ledled y byd, gallwn synhwyro’n barod y bydd 2023 yn flwyddyn hynod o lwyddiannus.

Meddai Cadeirydd y fenter, Dan Langford, “Y rhaglen Wythnos Cymru yw’r rhaglen digwyddiadau flynyddol fwyaf sydd yn dathlu a hybu Cymru, ac ymdrech arwrol ar y cyd sydd yn gyfrifol am ei llwyddiant – canlyniad uniongyrchol y rheini i gyd sydd yn ei chefnogi, sydd yn dod â’u gweithgareddau a syniadau i’r amserlen, a’r miloedd o bobl sydd yn mynychu’r digwyddiadau, yn ymuno a helpu arddangos yr hyn a wnawn drwy’u sianeli cyfryngau cymdeithasol.”

Gwahoddir pobl i arwyddo i fyny fan’ma i gael diweddariadau ar raglen Wythnos Cymru’r flwyddyn nesaf.

Newyddion