Rydym yn falch eich bod fan’ma yn bwrw golwg ar ein gwefan – gobeithio bod yr wybodaeth o ddiddordeb ichi ac yn eich helpu i ymwneud ag Wythnos Cymru Llundain.

Tra eich bod fan’ma, sylwer y byddwch, wrth ddarllen a pharhau i ddefnyddio’r safle, yn cytuno â’r amodau defnyddio â ganlyn.

Gwasanaeth sydd yn cael ei weithredu gan Wythnos Cymru Llundain (WCL) yw hwn.

Gwadiad

Gofynnwn ichi werthfawrogi er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth ar y wefan hon yn gywir a’i bod yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf, ni allwn fodd bynnag derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golled neu anghyfleustra a achoswyd gan ddibyniaeth ar ddeunydd anghywir yn y safle hon.

Dolenni i safleoedd eraill

Bydd rhai dolenni, gan gynnwys dolenni hyperdestun, yn ein safle yn eich cymryd i wefannau allanol. Darperir y rhain er cymwynas ichi ac nid yw cynnwys unrhyw ddolen yn awgrymu ardystiad neu gymeradwyaeth gan WCL o’r safle a gysylltwyd, ei weithredwr na’i gynnwys. Ac wrth gwrs, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys unrhyw wefan y tu allan i’n gwefan ni.

Polisi preifatrwydd

Gallai WCL gasglu gwybodaeth bersonol gan ymwelwyr i’r safle hon. Defnyddir yr wybodaeth hon i ymateb i ymholiadau’n unig ac i fonitro defnydd o’r safle. Ni chedwir cyfeiriadau e-bost a gafwyd fel rhan o ymholiad ond dros gyfnod trin yr ymholiad yn unig.

Pan ofynnir am ddata personol drwy ffurflenni (gan gynnwys ffurflenni cofrestru), defnyddir y fath ddata yn unig ar gyfer diben a ddatganwyd ar y ffurflen ac ni chânt eu rhoi na’u gwerthu i unrhyw drydydd parti.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys wefan yr WCL yn unig – nid yw’r gwefannau a gysylltwyd â nhw o’r wefan hon yn cael eu cynnwys gan y polisi hwn.

Bydd WCL, bob amser, yn cydymffurfio â gofynion Deddf Rheoleiddio Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018.

Defnydd o gwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis sydd wedi eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych wedi ymweld â nhw.

Cânt eu defnyddio’n eang er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle.

Am fwy o wybodaeth ar y cwcis penodol a ddefnyddiwn, ymwelwch â’r dudalen hon.

I newid yr hyn sydd yn well gennych o ran cwcis cliciwch fan’ma.

Hygyrchedd

Bydd WCL yn ymdrechu bob amser i wneud y safle hon mor hygyrch ag y mae’n rhesymol bosibl i bob defnyddiwr. Nid yw WCL mewn unrhyw ffordd yn ceisio gwahaniaethu’n fwriadol yn erbyn unrhyw ddefnyddiwr i wasanaeth y wefan yn unol â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.

Prosesu eich gwybodaeth

Bydd WWIL yn defnyddio’r wybodaeth, a ddarparoch ar ein ffurflen arwyddo i’n rhestr postio, i gysylltu â chi ac i roi diweddariadau a gwybodaeth o ran WCL a’n partneriaid.

Gallwch newid eich meddwl unrhyw amser drwy glicio’r ddolen datdanysgrifo mewn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu gysyllyu â ni yn info@walesweek.london. Byddwn yn parchu eich gwybodaeth.

Defnyddiwn MailChimp fel ein llwyfan cyfathrebu. Drwy gydsynio â’r ffurflen hon a’i chyflwyno, byddwch yn cydnabod y bydd yr wybodaeth a ddarparoch yn cael ei throsglwyddo i MailChimp ar gyfer ei brosesu yn unol â’u Polisi Preifatrwydd a Thelerau.